Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 25(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2018 Rhif (Cy. )
TRETH TRAFODIADAU TIR, CYMRU
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol cyntaf ar gyfer treth trafodiadau tir, a gyflwynir gan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf TTT”).
Mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol yn y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau trethadwy y mae’r dyddiad y mae’r trafodiadau hynny’n cael effaith ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
Mae bandiau treth a chyfraddau treth canrannol ar wahân yn gymwys i:
· Trafodiadau eiddo preswyl (Tabl 1);
· Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch (Tabl 2);
· Trafodiadau eiddo amhreswyl (Tabl 3); a
· Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent (ac sydd felly ond yn berthnasol yn achos lesoedd) (Tabl 4).
Mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol ag adrannau 27 a 28 o’r Ddeddf TTT ac eithrio pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent. Yn yr achosion hynny, mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol â Rhan 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT.
Yn rhinwedd adran 24(8) o’r Ddeddf TTT, mae trafodiadau sy’n cynnwys cymysgedd o eiddo preswyl ac eiddo amhreswyl i’w trin fel trafodiadau eiddo amhreswyl (ac mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol yn Nhabl 3 yn gymwys).
Ystyriwyd Cod Ymarfer
Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn
perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd
Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision
sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r
Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc
Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol
Cymru o dan adran 25(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau
Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi
Datganoledig (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad
gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2018 Rhif (Cy. )
TRETH TRAFODIADAU TIR, CYMRU
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
Gwnaed ***
Yn dod i rym ***
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 24(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a pharagraff 28(1) o Atodlen 6 iddi([1]).
Yn unol ag adran 25(1) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth
Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru)
2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Cymhwyso
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy([2]) y mae’r dyddiad y mae’n cael effaith ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
Bandiau treth a chyfraddau treth canrannol
3. Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol at ddibenion adran 24(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a pharagraff 28(1) o Atodlen 6 iddi—
(a) mae Tabl 1 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo preswyl;
(b) mae Tabl 2 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch;
(c) mae Tabl 3 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo amhreswyl; a
(d) mae Tabl 4 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent.
Enw
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
YR ATODLEN Rheoliad 3
Tabl 1: Trafodiadau eiddo preswyl
Band treth |
Y gydnabyddiaeth berthnasol |
Y gyfradd dreth ganrannol |
Band cyfradd sero |
Nid mwy na £180,000 |
0% |
Y band treth cyntaf |
Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 |
3.5% |
Yr ail fand treth |
Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 |
5% |
Y trydydd band treth |
Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 |
7.5% |
Y pedwerydd band treth
|
Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 |
10%
|
Y pumed band treth |
Mwy na £1,500,000 |
12% |
Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
Band treth |
Y gydnabyddiaeth berthnasol |
Y gyfradd dreth ganrannol |
Y band treth cyntaf |
Nid mwy na £180,000 |
3% |
Yr ail fand treth |
Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 |
6.5% |
Y trydydd band treth |
Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 |
8% |
Y pedwerydd band treth |
Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 |
10.5% |
Y pumed band treth
|
Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 |
13%
|
Y chweched band treth |
Mwy na £1,500,000 |
15% |
Tabl 3: Trafodiadau eiddo amhreswyl
Band treth |
Y gydnabyddiaeth berthnasol |
Y gyfradd dreth ganrannol |
Band cyfradd sero |
Nid mwy na £150,000 |
0% |
Y band treth cyntaf |
Mwy na £150,000 ond nid mwy na £250,000 |
1% |
Yr ail fand treth
|
Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000 |
5%
|
Y trydydd band treth |
Mwy na £1,000,000
|
6% |
Tabl 4: Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent
Band treth |
Y gydnabyddiaeth berthnasol |
Y gyfradd dreth ganrannol |
Band cyfradd sero LA |
Nid mwy na £150,000 |
0% |
Y band treth cyntaf |
Mwy na £150,000 ond nid mwy na £2,000,000 |
1% |
Yr ail fand treth |
Mwy na £2,000,000 |
2% |